Rhun ap Iorwerth opens NUJ conference on the future of Welsh media
The Wales First Minister gave a keynote address today (19 September) at the start of the NUJ's major conference, 'The State of Media in Wales: Shaping Our Future'.
ap Iorwerth, a journalist and broadcaster for almost 20 years before being elected, said: "My role in the media and as an NUJ member has taught me that journalism is not just a job - it is a public service."
The First Minister noted the deep importance of the Wales Public Interest Journalism Working Group - including the recommendations from the Of and For Wales report. "We believe this country deserves a confident, diverse, and sustainable media landscape rooted in value and ambition."
Without robust journalism and a health media landscape, representation and scrutiny is lost. "When governments make mistakes, as mine no doubt will, they need reporting that holds them to account," said ap Iorwerth.
The First Minister stressed the importance of trade union membership and decent employment standards.
ap Iorwerth said:
"Being a union member reminds us that the media and journalism is also about people. If we want a sustainable media, we need to invest in those people. We need good jobs, proper training opportunities for young people to enter the profession, and diversity in our newsrooms."
© Si Judd
//
Rhun ap Iorwerth yn agor cynhadledd genedlaethol yr NUJ ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru
Rhoddodd Prif Weinidog Cymru brif araith heddiw (19 Medi) ar ddechrau cynhadledd fawr yr NUJ, 'Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru: Llunio ein Dyfodol'.
Meddai ap Iorwerth, a oedd yn newyddiadurwr ac yn ddarlledwr am bron 20 mlynedd cyn cael ei ethol: "Drwy fy rôl yn y cyfryngau ac fel aelod o'r NUJ, rwyf wedi dysgu nad swydd yn unig yw newyddiaduraeth – mae'n wasanaeth cyhoeddus."
Nododd y Prif Weinidog pa mor hanfodol bwysig yw’r Gweithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd yng Nghymru – yn cynnwys yr argymhellion yn yr adroddiad O Gymru ac i Gymru. "Rydym yn credu bod y wlad hon yn haeddu tirwedd gyfryngau sy'n hyderus, yn amrywiol ac yn gynaliadwy ac wedi'i gwreiddio mewn gwerth ac uchelgais."
Heb newyddiaduraeth gadarn a thirwedd gyfryngau iach, mae cynrychiolaeth a chraffu yn mynd ar goll. "Pan fod llywodraethau'n gwneud camgymeriadau, fel y gwna fy llywodraeth innau, mae'n siŵr, bydd angen adrodd sy'n eu dal i gyfrif," meddai ap Iorwerth.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog bwysigrwydd aelodaeth o undeb llafur a safonau cyflogaeth boddhaol.
Dywedodd ap Iorwerth:
"Mae bod yn aelod o undeb yn ein hatgoffa bod y cyfryngau a newyddiaduraeth yn ymwneud â phobl hefyd. Os ydyn ni eisiau cael cyfryngau cynaliadwy, mae angen i ni fuddsoddi yn y bobl hynny. Mae angen swyddi da arnom, ynghyd â chyfleoedd hyfforddi priodol sy’n helpu pobl ifanc i ddod i mewn i'r proffesiwn, ac amrywiaeth yn ein hystafelloedd newyddion."