NUJ to hold national conference on ‘The State of Media in Wales’
On 19 September the NUJ will hold a major public conference on the future of Welsh journalism with a keynote opening address from Wales First Minister Rhun ap Iorwerth.
Held at the Glamorgan County Cricket Club in Cardiff, the conference will bring together journalists, leading media figures, community representatives and parliamentarians. Other keynote speakers include Laura Doel, TUC Cymru General Secretary; BBC Wales; ITV Wales; Books Council of Wales; Institute of Welsh Affairs; and leading voices from independent and local media such as Will Hayward, golwg360, and Welsh Community Radio Network (WCRN).
The conference will include analysis of recent Senedd elections and discussion about the future of Welsh media, democracy and public-interest journalism. The NUJ has argued that implementing the recommendations from the Of and For Wales report - including the establishment of a Welsh Media Institute to support a well-funded, plural media landscape - will be crucial to strengthening the Welsh media ecosystem.
David Nicholson and Rae Howells, NUJ Welsh Executive Council co-chairs, said:
"The NUJ Welsh Executive Council has worked hard within Wales to persuade successive Welsh governments to help strengthen public interest journalism within the country.
"The union has been a leading member of the public-interest journalism working group advising solutions to the Welsh government, and is in talks to turn expressions of support into concrete action.
"This conference is an opportunity to discuss radical solutions to revive the ailing Welsh media.”
Laura Davison, NUJ general secretary, said:
“This conference is an exciting and important opportunity to shape the future of the media in Wales. We’re delighted to welcome such a strong line-up of speakers and bring together voices from the media, politics, communities and the trade union movement to have a constructive conversation about public-interest journalism.
“We will confront some of the biggest challenges facing our members in Wales and work collectively to shape a national strategy that puts workers and communities first, recognising journalism’s role as an essential public service.”
In addition to keynote sessions, workshops and panel discussions, the programme will feature practical workshops, such as on AI and communications strategies. The conference will be delivered with Welsh and English simultaneous translation throughout, and all contributors will be given the option to use the language of their choice.
Registration is open to NUJ members and non-members. If you plan to cover the conference, please reply to this email to RSVP or register online. The First Minister’s keynote address will take place at 10:15am.
//
Yr NUJ yn cynnal cynhadledd genedlaethol i drafod 'Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru’
Ar 19 Medi bydd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yn cynnal cynhadledd gyhoeddus fawr ar ddyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru gydag anerchiad agoriadol gan Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Cynhelir y Gynhadledd yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg yng Nghaerdydd, a bydd yn dod â newyddiadurwyr, ffigyrau blaenllaw yn y cyfryngau, cynrychiolwyr cymunedol a seneddwyr at ei gilydd. Mae'r prif siaradwyr eraill yn cynnwys Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru; BBC Wales; ITV Wales; Cyngor Llyfrau Cymru; Y Sefydliad Materion Cymreig; a lleisiau blaenllaw yn y cyfryngau annibynnol a lleol fel Will Hayward, golwg360 a Rhwydwaith Radio Cymunedol Cymru (RhRCC).
Bydd y gynhadledd yn cynnwys dadansoddiad o etholiadau diweddar y Senedd a thrafodaeth ynglŷn â dyfodol y cyfryngau, democratiaeth a newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r NUJ wedi honni y bydd mabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad O Gymru ac i Gymru – gan gynnwys sefydlu Sefydliad Cyfryngau Cymru i gefnogi tirwedd gyfryngau amryfath, a ariennir yn addas – yn hanfodol ar gyfer cryfhau ecosystem y cyfryngau yng Nghymru.
Meddai David Nicholson a Rae Howells, cyd-gadeiryddion Cyngor Gweithredu Cymru'r NUJ:
"Mae Cyngor Gweithredu Cymru'r NUJ wedi gweithio'n galed yng Nghymru yn darbwyllo llywodraethau olynol Cymru i helpu i gryfhau newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yn y wlad.
"Mae'r undeb wedi bod yn aelod blaenllaw o’r gweithgor newyddiaduraeth er budd y cyhoedd gan gynghori Llywodraeth Cymru, ac mae mewn trafodaeth i droi'r geiriau o gefnogaeth yn weithredu pendant.
"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i drafod atebion radical ar gyfer adfywio'r cyfryngau llesg yng Nghymru."
Meddai Laura Davison, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ:
“Mae'r gynhadledd hon yn gyfle pwysig a chyffrous i lywio dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o groesawu rhestr mor ddisglair o siaradwyr a chael dod â lleisiau o'r fyd y cyfryngau, gwleidyddiaeth, cymunedau a mudiad yr undebau llafur at ei gilydd i gynnal sgwrs adeiladol ynglŷn â newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
“Byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein haelodau yng Nghymru ac yn cydweithio i lunio strategaeth genedlaethol sy'n rhoi gweithwyr a chymunedau'n gyntaf, gan gydnabod rôl newyddiaduraeth fel gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.”
Yn ogystal â'r prif sesiynau, gweithdai a'r trafodaethau panel, bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai ymarferol, ar ddeallusrwydd artiffisial a strategaethau cyfathrebu ymhlith eraill. Bydd cyfieithu ar y pryd yn Gymraeg a Saesneg ar gael drwy gydol y gynhadledd, a bydd pob cyfrannwr yn cael defnyddio'u hiaith ddewisol
Bydd Cofrestru yn agored i aelodau'r NUJ a'r rhai nad ydynt yn aelodau. Os ydych yn bwriadu rhoi sylw i’r gynhadledd, atebwch yr e-bost hwn i gadarnhau, neu cofrestrwch ar-lein. Cynhelir prif anerchiad y Prif Weinidog am 10:15am.