The State of Media in Wales /Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru

Register now to be a part of this national conference! / Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o'r gynhadledd genedlaethol hon!

The NU  will hold a one-day national conference, ‘The State of Media in Wales’, to shape the future of public interest journalism in Wales. The conference is supported by the Welsh Government via Creative Wales.

Speakers and contributors include: 

  • Rt Hon Rhun ap Iorwerth MS, Wales first minister
  • Laura Doel, TUC Cymru general secretary
  • Senior leadership from BBC Wales and ITV Wales
  • Books Council of Wales
  • Journalist and author Will Hayward
  • Institute of Welsh Affairs
  • Leading voices from independent and local media, including Caerphilly Observergolwg360, and Welsh Community Radio Network (WCRN)

 

The conference aims to spark important conversations about the current state of the media in Wales, and how we can achieve a media industry that’s fit for the nation.

Session 1

Is there a devolution knowledge gap?

Professor Stephen Cushion’s team at Cardiff University will present their far-reaching analysis of the coverage of Wales and Welsh politics around the May 2026 election. The report shows how little coverage there was of the Senedd election in UK-wide news. Experts Joe Rossiter (Institute of Welsh Affairs) and Will Hayward (the Will Hayward Newsletter and author of Who Cares About Wales) will join them to discuss the coverage, explore the structural challenges holding Welsh media back and suggest how Senedd elections could be covered in future.

Session 2

Broadcasting a Bigger Vision for Wales

We invite contributors from across Welsh broadcasting to reimagine a future in which Wales is given equal billing in the UK media, and what it might take to bring it about. Representatives from ITV Wales, BBC Wales, S4C and Bro Radio will discuss whether giving Wales more power over broadcasting could be the solution, or whether there are other ways to achieve the same goal.

Session 3

How should we pay for Welsh journalism?

The Welsh media industry is shrinking, largely thanks to declining revenues. The NUJ has long lobbied for public funding of public interest journalism in Wales. But how can such funding best be used? With panelists from across the Welsh newspaper, hyperlocal and magazine sectors alongside major funders like the Books Council of Wales, we explore best practice in journalism funding, and look at some of the pitfalls and problems. With the increasing issue of news deserts and the decrease in journalism jobs in Wales, we discuss how best to ensure funding is targeted at the right outlets to improve the cultural and political life of Wales.

Refreshments, snacks and lunch will be provided throughout the day.

Workshops

There will also be an opportunity to take part in a short workshop during the day, in partnership with NUJ Training Wales. Delegates can choose from:

Workshop A: AI and journalism

Seasoned journalist and trainer Dan Mason will take you on a whistlestop tour of AI and its capabilities. Whether you’re interested in knowing what you’re up against on the newsdesk, or keen to see how AI could help you in your working life, then this session is a fantastic introduction.

Workshop B: Responding to the revolution / Llwyddo mewn chwyldro

How communicators can maximise impact in the new media landscape with communications expert Richard Nosworthy (This session will be delivered in Welsh, with simultaneous translation.)

The conference will be delivered with Welsh and English simultaneous translation throughout, and all contributors given the option to use the language of their choice. BSL and speech to text reporters will also be available throughout the conference.

To ensure we can provide an excellent lunch for all delegates, keep track of numbers and avoid unecessary waste, we are asking for a £5 refundable deposit to secure your place.

We want this event to be accessible to everyone. If you are a student or unable to afford the deposit, please get in touch at [email protected] and we will register you directly.

Registration with Tea and coffee from 9:30 - 10:00 hrs

//

Cyfryngau sy'n addas i Gymru?

Bydd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yn cynnal cynhadledd genedlaethol undydd, ‘Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru’ i lywio dyfodol newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru. Caiff y gynhadledd ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol. 

Ymhlith y siaradwyr a’r cyfranwyr mae:  

  • Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru 
  • Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru 
  • Uwch arweinwyr o BBC Cymru ac ITV Cymru 
  • Cyngor Llyfrau Cymru 
  • Y newyddiadurwr ac awdur Will Hayward 
  • Sefydliad Materion Cymreig 
  • Lleisiau blaenllaw o blith y cyfryngau annibynnol a lleol, gan gynnwys Caerphilly Observer, golwg360, a Rhwydwaith Radio Cymunedol Cymru (WCRN). 

 

Nod y gynhadledd yw sbarduno sgyrsiau pwysig ynglŷn â chyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru, a sut gallwn gyflawni diwydiant y cyfryngau sy'n addas i'r genedl.

Sesiwn 1

A oes yna fwlch gwybodaeth o ran datganoli?

Bydd tîm yr Athro Stephen Cushion ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno'u dadansoddiad treiddgar o'r sylw a roddwyd i Gymru a gwleidyddiaeth Cymru yn y cyfryngau parthed etholiad Mai 2026. Mae'r adroddiad yn dangos cyn lleied o sylw gafodd etholiad y Senedd yn y newyddion ledled y DU. Bydd yr arbenigwyr Joe Rossiter (Sefydliad Materion Cymreig) a Will Hayward (Cylchlythyr Will Hayward ac awdur Who Cares About Wales) yn ymuno â nhw i drafod y sylw, archwilio'r heriau strwythurol sy'n rhwystro’r cyfryngau yng Nghymru ac awgrymu sut ddylai etholiadau'r Senedd gael eu trin yn y dyfodol.

Sesiwn 2

Darlledu Gweledigaeth Ehangach ar gyfer Cymru

Rydym yn gwahodd cyfranwyr o bob rhan o ddarlledu yng Nghymru i ail-ddychmygu dyfodol lle mae Cymru yn cael yr un amlygrwydd yng nghyfryngau’r DU, ac ystyried ym mha ffordd y gellir cyflawni hyn. Bydd cynrychiolwyr o ITV Wales, BBC Wales, S4C a Bro Radio yn trafod ai'r ateb fyddai rhoi mwy o bŵer dros ddarlledu i Gymru, neu a oes yna ffyrdd eraill o gyflawni'r un nod.

Sesiwn 3

Sut ddylen ni dalu am newyddiaduraeth yng Nghymru?

Mae diwydiant y cyfryngau yng Nghymru yn crebachu, yn bennaf oherwydd refeniwiau gostyngol. Mae'r NUJ wedi lobïo ers tro am gyllid cyhoeddus i newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru. Ond beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio'r cyfryw gyllid? Ar y cyd â phanelwyr ar draws y sectorau papurau newydd, hyperleol a chylchgronau yng Nghymru a phrif gyllidwyr fel Cyngor Llyfrau Cymru, byddwn yn archwilio'r arferion gorau o ran cyllido newyddiaduraeth, ac yn ystyried rhai o'r maglau a'r problemau. Yn sgil y mater cynyddol o anialwch newyddion a'r gostyngiad mewn swyddi newyddiaduraeth yng Nghymru, rydym yn trafod y ffordd orau o sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu i'r cyfeiriad cywir er mwyn gwella bywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru.

Darperir lluniaeth, byrbrydau a chinio drwy gydol y diwrnod.

Gweithdai

Bydd cyfle hefyd i fynychu gweithdy byr yn ystod y diwrnod, mewn partneriaeth â Hyfforddiant NUJ Cymru. Gall y cynrychiolwyr ddewis o blith:

Gweithdy A: Deallusrwydd Artiffisial a newyddiaduraeth

Bydd y newyddiadurwr a'r hyfforddwr profiadol Dan Mason yn eich arwain ar daith wib o gwmpas Deallusrwydd Artiffisial a'i alluoedd. P'un ai fod gennych ddiddordeb mewn gwybod beth sy’n eich wynebu wrth y ddesg newyddion, neu hoffech weld sut gallai Deallusrwydd Artiffisial eich helpu yn eich bywyd gwaith, bydd y sesiwn hon yn gyflwyniad gwych.

Gweithdy B: Llwyddo mewn chwyldro / Responding to the revolution

sut y gall cyfathrebwyr fanteisio ar fyd cyfryngau newydd. Gyda arbenigwr cyfathrebu Richard Nosworthy. (sesiwn Cymraeg gyda cyfieithu ar y pryd i'r Saesneg)

Cyflwynir y gynhadledd gyfan gyda chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg a Saesneg, a bydd pob cyfrannwr yn cael defnyddio'u hiaith ddewisol. Bydd BSL ac adroddwyr llais i destun ar gael hefyd drwy gydol y gynhadledd.

Er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu cinio rhagorol i bob cynrychiolydd, osgoi gwastraff, a chadw golwg ar y niferoedd, rydym yn gofyn am flaendal ad-daladwy o £5 i sicrhau eich lle.

Rydym am i'r digwyddiad hwn fod yn hygyrch i bawb. Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n methu fforddio'r blaendal, cysylltwch â [email protected] a byddwn yn eich cofrestru'n uniongyrchol.

Cofrestru gyda the a choffi rhwng 9:30 a 10:00