Siarter Hawliau Gweithwyr Llawrydd

  • 09 Dec 2020

Bargen deg i weithwyr llawrydd.

Freelance Charter Welsh

Mae’r argyfwng Covid-19 wedi peri i’r gweithwyr llawrydd ar draws diwydiant y cyfryngau, sydd mewn sefyllfa fregus yn barod, gael eu hymyleiddio ymhellach.

Mae’r Siarter Hawliau Gweithwyr Llawrydd hwn gan yr NUJ yn galw am amddiffyniadau a buddiannau gwell, ni waeth be fo’u statws cyflogaeth. Cefnogwch ein galwad am Fargen Deg i Weithwyr Llawrydd, lle bydd gan yr holl weithwyr llawrydd yr hawl i’r canlynol:

  1. Cydfargeinio gan undebau llafur i wella’r telerau ac amodau i weithwyr llawrydd, ar y cyd ag i staff
  2. Contractau ysgrifenedig teg sy’n rhydd rhag y bygythiad o anfantais am fynnu eu hawliau
  3. Parchu eu hawliau creawdwyr a’u hawliau moesol anaralladwy
  4. Hawliau sy’n gyfartal â hawliau gweithwyr cyflogedig yn cynnwys: cyflog salwch; absenoldeb rhiant, mamolaeth a thadolaeth; budd-dal diweithdra; mynediad llawn at fudd-daliadau a nawdd cymdeithasol
  5. Cael dewis eu dull o weithio’n llawrydd ac o gael eu trethu, gan roi terfyn ar daliadau treth ymlaen llaw
  6. Gweithio’n rhydd rhag y pwysau i weithredu ar sail y Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), neu i ymgorffori, neu weithio drwy gwmnïau ambarél
  7. Amddiffyniadau iechyd a diogelwch cyfartal, yn cynnwys darpariaeth ddiogelwch, hyfforddiant ac yswiriant cyffelyb
  8. Ffioedd a thelerau teg, a thaliadau cyflym
  9. Urddas a pharch yn y gwaith, yn rhydd rhag bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu, gyda mynediad cyffelyb at weithdrefnau cwyno
  10. Hawliau proffesiynol cyfartal, yn cynnwys yr hawl i ddiogelu ffynonellau, ceisio gwybodaeth a chynnal safonau moesegol
Download the resource

Return to listing